top of page
11:00 am
10:00 am

Mae'r digwyddiad yn dechrau yng Nghanolfan Addysg Parc Bute ger caffi'r Secret Garden. Byddwch yn cofrestru ac mi fydd aelod o staff yn esbonio'r rheolau i chi.

Byddwch yn derbyn manylion ar gyfer y llun cyntaf bydd rhaid i chi ei gymryd - a felly mae'n amser i ddechrau bod yn greadigol.

Mae'r broses yn cael ei ailadrodd hyd at 3:00yh. Erbyn hyn byddwch wedi casglu 4 llun o'r gwahanol categoriau a bydd y cystadleuaeth yn gorffen. Dyma ydy'r amser cau ar gyfer dychwelyd eich lluniau.

Byddwch yn dychwelyd i'r man dechrau gyda un llun sy'n benodol i'r categori yna ac yna bydd y thema nesaf yn cael ei ddisgrifo i chi.

15:00 pm
12:00 am

Yr Her

 

Fel grwp neu'n unigol, bydd  rhaid i chi gasglu pedwar o luniau gwreiddiol a chreadigol o fewn Parc Bute gan weithio o briff byddwch yn derbyn ar y diwrnod.

 

Byddwn yn arddangos yr holl luniau yng Nghanolfan Addysg Parc Bute ac ar y wefan gan ofyn i ymwelwyr i bleidleisio ar gyfer eu hoff luniau. Bydd gwobrwyon i'r enillwyr (ar gyfer y categoriau i oedolion a phlant). Mae'r holl beth am ddim, i gyd sydd angen ydy camera digidol neu ffon symudol a gwifren USB ar ei cyfer.

 

Dewch yn barod ar gyfer unrhyw dywydd!

Yr Amserlen

bottom of page